Chwilio Taliadau

Ar y dudalen hon gallwch edrych ar y symiau a dderbyniwyd gan fuddiolwyr. Gallwch ddefnyddio’r opsiynau isod i’ch cynorthwyo i hidlo eich chwiliad, gan gynnwys dewis nifer o opsiynau chwilio yr un pryd i leihau nifer y canlyniadau.

Dangosir y symiau y bydd pob buddiolwr wedi’i dderbyn o dan bob pennawd (Datblygu Gwledig, Cymorth Uniongyrchol a Chynlluniau’r Farchnad) yn y flwyddyn ariannol, a hefyd cyfanswm y symiau hyn. Gallwch weld mwy o wybodaeth am y cynlluniau neu fesurau y talwyd y cymorthdaliadau amdanynt drwy glicio ar y botwm “Manylion”. Mae mwy o wybodaeth am y cynlluniau a’r mesurau hyn ar gael yma.

Yn achos buddiolwyr sy’n derbyn llai na chyfanswm o €1,250 mewn cymorthdaliadau (yn gyfartal â £1,114), ni chaiff eu henwau eu datgelu, yn hytrach dangosir rhif cod.

Mae data bellach ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol yr UE 2021 a 2022 (16 Hydref 2020 - 15 Hydref 2021 a 16 Hydref 2021 - 15 Hydref 2022). Gallai’r taliadau a wneir yn y blynyddoedd hyn fod yn daliadau ar gyfer blwyddyn arall. Ni chynhwysir addasiadau a wneir mewn blwyddyn ariannol ddilynol.

Caiff canlyniadau chwilio eu dangos yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw’r buddiolwr fel y mae wedi’i gofrestru gyda’r Asiantaeth Dalu berthnasol . Gallwch aildrefnu’r canlyniadau yn ôl maes arall drwy glicio ar bennawd y golofn berthnasol, er enghraifft cod post y rhanbarth, tref/dinas ac ati.