Lawrlwytho data

Mae data Taliadau’r PAC hefyd ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf ffeil Excel. Mae’r ffeil yn cynnwys yr holl wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan gan gynnwys manylion y cymorthdaliadau a dalwyd yn ôl cynllun neu fesur. Yn achos buddiolwyr sy’n derbyn llai na chyfanswm o €1,250 mewn cymorthdaliadau (yn gyfartal â £1,114), ni chaiff eu henwau eu datgelu, yn hytrach dangosir rhif cod. Mae’r daenlen yn cynnwys tabiau ar wahân ar gyfer data pob Asiantaeth Dalu yn y DU.

Gellir lawrlwytho data ar gyfer blynyddoedd ariannol yr UE 2021 a 2022 (taliadau a wnaed rhwng 16 Hydref 2020 a 15 Hydref 2021 a rhwng 16 Hydref 2021 a 15 Hydref 2022). Cliciwch yma ar gyfer ffeil taenlen Excel 2021 neu 2022.

Gellir ailddefnyddio’r data hyn o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus..