Cyhoeddir yr wybodaeth hon i ddiwallu gofynion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 259/2008.
Mae’r manylion yn ymwneud a thaliadau pob cynllun y PAC, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sengl, i fuddiolwyr yn ystod y flwyddyn o 16 Hydref 2007 i 15 Hydref 2008. Mae hefyd yn cynnwys manylion taliadau'r cynllun datblygu gwledig yn ystod y cyfnod o 1 Ionawr 2007 i 15 Hydref 2007.
Cyhoeddir gwybodaeth bob blwyddyn ar 30 Ebrill am daliadau i fuddiolwyr y DU ym mlwyddyn ariannol flaenorol y PAC (16 Hydref i 15 Hydref). Bydd yr wybodaeth ar y wefan am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl ei chyhoeddi.
Nac oes. Mae modd chwilio trwy ddefnyddio unrhyw un o’r meini prawf.
Gweler 2 uchod. Dylech weld a yw’r wybodaeth yn gywir ac, os yw’n briodol, gwneud y chwilio’n fwy cyffredinol.
Nac oes. Gallwch chwilio trwy nodi enw llawn neu ran o enw (e.e. Jack Jones, J Jones neu Jones).
Na fydd. Mae’r meini prawf wedi’u gosod mewn modd sy’n sicrhau bod y gronfa ddata’n adnabod gwybodaeth sy’n rhannol gywir.
Nac oes. Gallwch chwilio trwy ddefnyddio naill ai’r cod post llawn (ee PO16 7DZ) neu god post yr ardal (e.e. PO16).
Gallwch argraffu’r canlyniadau chwilio trwy ddefnyddio’r botwm argraffu yn eich porwr.
Er bod y meini prawf chwilio wedi’u pennu i’w gwneud mor hawdd â phosibl dod o hyd i fanylion y sawl sydd wedi cael taliadau, bydd y meysydd a ddangosir ond yn dangos y manylion personol canlynol yn unol â’r gofynion rheoleiddio:
Mae’r manylion yn cynnwys taliadau pob cynllun y PAC, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sengl, i fuddiolwyr yn ystod y flwyddyn o 16 Hydref 2007 i 15 Hydref 2008. Mae hefyd yn cynnwys manylion taliadau cynllun datblygu gwledig yn ystod y cyfnod o 1 Ionawr 2007 i 15 Hydref 2007.
Mae hynny’n golygu y caiff unrhyw daliad a gawsoch rhwng y dyddiadau hyn ar gyfer pob un o’r cynlluniau eu cynnwys, ac mae’n bosibl na fydd y symiau hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau nac addasiadau i’r taliadau wedi hynny.
Efallai bod ateb 2 yn berthnasol. Syniad da fyddai gweld bod yr wybodaeth yn gywir ac, os oes angen, chwilio’n fwy cyffredinol.
Mae’r wybodaeth sydd yn y gronfa ddata wedi’i chasglu o sawl ffynhonnell sydd â systemau cyfrifyddu ar wahân. Cafodd y symiau’u rhoi mewn punnoedd, ond eu troi’n ewros i’w cofnodi gyda’r Comisiwn Ewropeaidd. Mewn rhai achosion, mae’r data cyfrifyddu perthnasol ar gael mewn ewros yn unig.
Mae’r is-deitlau a ddefnyddir yn unol â gofynion deddfwriaeth yr UE.
Mae ‘cymorth uniongyrchol’ yn ymwneud â chynlluniau traddodiadol, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sengl, lle mae ffermwyr a thyfwyr yn cael cymorthdaliadau uniongyrchol. Mae ‘cynlluniau marchnad’ yn ymwneud â chymorth i’r farchnad amaethyddol, fel cymorthdaliadau cynhyrchu, ad-daliadau allforio a chostau sy’n gysylltiedig â storio cynnyrch yn gyhoeddus ac yn breifat. Gyda’i gilydd ‘Colofn 1’ y PAC yw’r ddau bennawd hwn ac maent yn cael eu talu trwy Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop.
Mae ‘mesurau datblygu gwledig’ yn ymwneud â chynlluniau amaeth-amgylcheddol a mesurau datblygu gwledig eraill o dan bedair Rhaglen Datblygu Gwledig y DU. Mae’r pennawd hwn, sef ‘Colofn 2’ y PAC, yn cael ei dalu trwy Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Nid oes modd trosglwyddo adnoddau cyllidebol rhwng Colofn 1 a Cholofn 2 nac i’r gwrthwyneb, ac eithrio yn achos ‘modiwleiddio’.
Mae mwy o wybodaeth i’w gweld ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd, drwy’r dolenni isod:
Bydd angen ichi gysylltu â’r Asiantaeth Dalu sy’n gyfrifol am gofnodi’r taliad. Mae manylion cyswllt yr Asiantaeth Dalu ar y wefan hon.
I anfon cwestiwn ynghylch y wefan hon, defnyddiwch brif dudalen Cysylltwch â Ni Defra.