Chwiliad Taliadau PAC

Skip Navigation LinksHafan Defra>Chwiliad Taliadau PAC

Chwilio

Croeso i wefan Taliadau PAC y DU. Ar y wefan hon mae gwybodaeth am y symiau y mae buddiolwyr y DU wedi’u cael dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).

Darperir yr wybodaeth hon yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 259/2008, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r DU gyhoeddi ar un wefan fanylion y sawl yn y DU sy’n cael cymorthdaliadau’r PAC.

Mae’r manylion a nodir yn ymwneud â phob taliad cynllun PAC, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sengl, a roddwyd i fuddiolwyr yn ystod y flwyddyn rhwng 16 Hydref 2007 a 15 Hydref 2008. Mae hefyd yn cynnwys manylion taliadau'r cynllun datblygu gwledig rhwng 1 Ionawr 2007 a 15 Hydref 2007.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2008, caiff y cyfanswm i bob un o’r buddiolwyr ei ddadansoddi yn ôl tri chategori gwahanol: cymorth uniongyrchol (h.y. Cynllun y Taliad Sengl), cynlluniau marchnad a mesurau datblygu gwledig.

in
=
=

Naill ai taliadau unigol llawn neu gyfanswm sawl taliad yw’r symiau a ddangosir. Dim ond y taliadau yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw sydd wedi’u cynnwys. Mae’n bosibl eu bod yn ymwneud â mwy nag un flwyddyn cynllun. Ni fydd addasiadau ar gyfer blwyddyn ariannol arall yn cael eu cynnwys. Dangosir y taliadau mewn ewros (€) neu bunnoedd (£) ac mae colofnau ar wahân ar gyfer y gwahanol fathau o arian cyfredol.

Defnyddiwch y meini prawf uchod i weld y symiau i’r buddiolwyr. Gallwch ddefnyddio sawl opsiwn chwilio er mwyn gostwng nifer y canlyniadau. Byddwch mor fanwl â phosibl wrth nodi data (e.e. defnyddiwch enw llawn y buddiolwr yn hytrach na’r cyfenw’n unig).

Bydd y canlyniadau chwilio’n dangos enw’r Asiantaeth Dalu ar gyfer pob swm.

Dangosir y canlyniadau chwilio yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw’r buddiolwr. Yna gallwch drefnu’r canlyniadau yn ôl categori arall trwy glicio ar bennawd y golofn berthnasol. Er enghraifft, mae modd trefnu canlyniadau chwilio ar gyfer enw penodol, wedyn yn ôl cod post, ardal, tref/dinas etc.

Mae’r data a gyhoeddir ar y wefan hon ar gael fel ffeil Excel. Efallai y bydd rhaid i chi osod Microsoft Excel Viewer sydd ar gael am ddim. Mae’r data ar gael at ddibenion ymchwil dielw yn unig. Nid ydym yn ei warantu na chymryd unrhyw gyfrifoldeb amdano.