Lawrlwytho data

Mae data Taliadau’r PAC hefyd ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf ffeil Excel. Mae’r ffeil yn cynnwys yr holl wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan gan gynnwys manylion y cymorthdaliadau a dalwyd yn ôl cynllun neu fesur. Yn achos buddiolwyr sy’n derbyn llai na chyfanswm o €1,250 mewn cymorthdaliadau (yn gyfartal â £1,114), ni chaiff eu henwau eu datgelu, yn hytrach dangosir rhif cod. Mae’r daenlen yn cynnwys tabiau ar wahân ar gyfer data pob Asiantaeth Dalu yn y DU.

Gellir lawrlwytho data ar gyfer blwyddyn ariannol yr UE 2024 (taliadau a wnaed rhwng 16 Hydref 2023 a 15 Hydref 2024). Mae manylion taliadau am y cyfnod 16 Hydref 2024 i 15 Hydref 2025 ar gyfer Gogledd Iwerddon hefyd ar gael.

Cliciwch yma ar gyfer ffeiliau taenlen Excel 2024 neu 2025.

Gellir ailddefnyddio’r data hyn o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus.