Mae 'cymorth uniongyrchol’ yn golygu’r cynlluniau hynny, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol, sy’n talu cymhorthdal yn uniongyrchol i ffermwyr a thyfwyr. Mae 'cynlluniau’r farchnad’ yn golygu’r cymorth a roddir i’r farchnad amaethyddol, fel cymhorthion cynhyrchu, ad-daliadau allforion a chostau sy’n gysylltiedig â storio cynnyrch yn gyhoeddus a phreifat. Gyda’i gilydd, y ddau bennawd hwn yw 'Colofn 1' y PAC, ac fe ddaw’r arian o Gronfa Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop.
Mae 'mesurau datblygu gwledig’ yn cynnwys y cynlluniau amaeth-amgylcheddol a mesurau datblygu gwledig eraill o dan bedair Rhaglen Datblygu Gwledig y DU. Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig sy’n talu am y pennawd hwn, a elwir hefyd yn 'Golofn 2' y PAC.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd drwy ddefnyddio’r dolenni a ganlyn: