Landscape Vegetables Fields Cows

Taliadau’r PAC

Rural Payments Agency
Natural Scotland
Welsh Government
AERA

Croeso i wefan Taliadau PAC y DU. Ar y wefan hon gallwch ddod o hyd i fanylion y symiau a dderbyniwyd gan fuddiolwyr y Deyrnas Unedig am gynllyniau dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).

Darperir yr wybodaeth hon yn unol â Rheoliad yr UE Rhif 1306/2013 a Rheoliad y Comisiwn Rhif 908/2014, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r DU ac Aelod-wladwriaethau’r UE gyhoeddi manylion am y rheini sy’n cael taliadau cymhorthdal o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin ar un gwefan genedlaethol. Yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, bu’r PAC (yn cynnwys y Rheoliadau uchod) yn parhau’n berthnasol i’r Cynllyn Datblygu Gwledig 2014-2020 nes iddo gau ar 31 Rhagfyr 2023. Ymhellach, mae’r wefan hon yn cynnwys manylion cymorthdaliadau amaethyddol â ariennir gan y DU o dan rheoliadau UE argadwedig, fel Cynllyn y Taliad Sylfaenol. Mae’r gofynion i gyhoeddi’r manylion hyn wedi eu trawsnodi i ddeddfwriaeth y DU trwy Offerynnau Statudol â wnelir o dan Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae’r manylion a gaiff eu cynnwys ar y wefan hon yn ymwneud â holl gymorthdaliadau’r PAC a wnaed i fuddiolwyr yn ystod blynyddoedd ariannol yr UE, 16 Hydref 2021 i 15 Hydref 2022, a 16 Hydref 2022 i 15 Hydref 2023. Dangosir y cyfanswm a dderbyniwyd gan bob buddiolwr o dan tri phennawd: cymorth uniongyrchol (e.e. Cynllun y Taliad Sylfaenol), cynlluniau’r farchnad a mesurau datblygu gwledig. Gellir ehangu’r penawdau hyn i ddangos y symiau a dalwyd o dan bob un o gynlluniau neu fesurau’r PAC.

Gallwch ddefnyddio’r dudalen chwilio taliadau i weld y symiau a dderbyniwyd gan fuddiolwyr. Trwy ddefnyddio’r gwahanol ddewisiadau chwilio, gan gynnwys enw, cyfeiriad, gwerth a chynllun, gallwch leihau nifer y canlyniadau. Neu, gallwch lawrlwytho set cyflawn o ddata ar ffurf taenlen.

Yn unol â gofynion y deddfwriaeth uchod, ni ddangosir enwau buddiolwyr sy’n derbyn llai na €1,250 mewn cymorthdaliadau yn ystod y flwyddyn ar y wefan. Yn yr achosion hyn, caiff manylion y symiau a dalwyd i’r buddiolwyr eu cynnwys, ond ni ddangosir eu henwau. Er mwyn cyhoeddi symiau ar y wefan hon, mae’r €1,250 wedi ei gyfnewid i’r cyfradd cyfartal Sterling, sef £1,114.

Mae Llywodraeth y DU yn parhau’n ymrwymedig i dryloywder llawn wrth ddefnyddio arian cyhoeddus, gan gynnwys cyhoeddi manylion yr holl daliadau a wnaed o dan y PAC.

Bydd cyhoeddiad diwethaf am daliadau’r PAC ar y wefan hon yn cael ei wneud yn mis Mai 2025 am manylion y flwyddyn 16 Hydref 2023 i 15 Hydref 2024, yn cynnwys y taliadau diwethaf â ariennir gan yr UE