Mae’r manylion sydd wedi’u cynnwys yn ymwneud â holl daliadau cynlluniau’r PAC â ariennir gan yr UE, ac hefyd gan y DU o dan rheoliadau UE argadwedig, a wnaed i fuddiolwyr yn ystod y cyfnod 16 Hydref 2023 i 15 Hydref 2024. Mae manylion taliadau am y cyfnod 16 Hydref 2024 i 15 Hydref 2025 hefyd wedi eu cynnwys ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Yn ystod y cyfnodau hyn, ariennir Taliadau Uniongyrchol a taliadau Cynlluniau’r Farchnad gan y DU dan rheoliadau UE argadwedig. Parhaodd rhai Taliadau Datblygu Gwledig i gael eu ariannu gan yr UE nes 31 Rhagfyr 2023 dan telerau’r Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Cyhoeddir gwybodaeth ar gyfer pob buddiolwr sy’n derbyn mwy na €1,250, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol am y cynlluniau neu fesurau a dalwyd. Cyhoeddir gwybodaeth ar gyfer pob buddiolwr sy’n derbyn €1,250 neu lai, ond ni chaiff enw’r buddiolwr eu cyhoeddi.