Mae’r manylion sydd wedi’u cynnwys yn ymwneud â holl daliadau cynlluniau’r PAC â ariennir gan yr UE, ac hefyd gan y DU o dan rheoliadau UE argadwedig, a wnaed i fuddiolwyr yn ystod y cyfnod 16 Hydref 2021 i 15 Hydref 2022 a 16 Hydref 2022 i 15 Hydref 2023.
O 16 Hydref 2021 i 15 Hydref 2022, ac o 16 Hydref 2022 i 15 Hydref 2023 ariennir Taliadau Uniongyrchol a taliadau Cynllyniau’r Farchnad gan y DU dan rheoliadau UE argadwedig. Mae’r mwyafrif o Daliadau Datblygu Gwledig yn parhau i gael eu ariannu gan yr UE dan telerau y Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Cyhoeddir gwybodaeth ar gyfer pob buddiolwr sy’n derbyn mwy na €1,250, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol am y cynlluniau neu fesurau a dalwyd. Cyhoeddir gwybodaeth ar gyfer pob buddiolwr sy’n derbyn €1,250 neu lai, ond ni chaiff enw’r buddiolwr eu cyhoeddi.