Mae pedair Asiantaeth Dalu achrededig yn y DU: yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA), Cyfarwyddiaeth Taliadau ac Arolygiadau Gwledig Llywodraeth yr Alban (SGRPID), Llywodraeth Cymru (LlC) ac Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Datblygu Gwledig (DAERA) Gogledd Iwerddon.
Gall yr Asiantaeth Dalu ddirprwyo rhai swyddogaethau i gyrff eraill, ond hi sy’n gyfrifol am gyfrifo’r holl daliadau o dan gynlluniau’r PAC. Mae canlyniadau chwilio y wefan hon yn dangos pa Asiantaeth Dalu sy’n gyfrifol am y taliadau.
Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’r wybodaeth am daliadau ar y wefan hon ac os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r ateb rydych yn chwilio amdano ar y dudalen Cwestiynau Cyffredin, cysylltwch â’r Asiantaeth Dalu berthnasol drwy ddefnyddio’r ddolen briodol isod.